Duw llefara wrth fy ysbryd

1,(2),3,4.
(Duw yr unig Noddfa)
Duw, llefara wrth fy ysbryd
  Air yn ddirgel er Dy glod;
Dan y gwres ac yn y gofid
  Nerth i'r egwan wyt erio'd.
Dyro imi aden eryr
  I hedeg tua'r Ganaan wlad,
A ffyddiog undeb â Dy berson
  Sydd uwch cyrraedd
    cig a gwa'd.

Nid oes gennyf ond Dy hunan
  Yn Arweinydd ffyddlon im;
Dan Dy gysgod mae fy noddfa
  Yn y storom fwya'i grym.
Cadw 'ngolwg ar yr hafan 
  Lle mae'm tynfa, doed a ddêl;
Tiroedd hyfryd yr addewid,
  Gwlad yn llifo o laeth a mêl.

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
  Nid oes neb a ddal fy mhen
Ond fy annwyl briod Iesu
  A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau
  A ddal fy mhen-i uwch y don:
Golwg arno wna imi ganu
  Yn yr afon ddofon hon.

O fy enaid, disgwyl ronyn!
  Paid er dim â llwfwrhau! 
Er mynd trwy lawer brwydyr galed
  Mae'r frwydyr olaf yn nesáu.
Caf gyfarfod a'm cyd-filwyr
  Aeth trwy'r frwydyr o fy mla'n,
Yn seinio'r hyfryd fuddugoliaeth
  O un galon ar un gân.
1782 Dafydd William 1720-94

Tôn [8787D]: Alexander (John Roberts 1806-79)

gwelir:
  Iesu cyfaill pechaduriaid
  Milwyr Sion cym'rwn galon
  Nid oes genyf ond dy hunan
  Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau

(God the only Refuge)
God, speak to my spirit
  A word in secret for Thy praise;
Under the heat and in the trouble
  Strength to the weak art thou ever.
Give me an eagle's wings
  To fly to the Cannaan land,
And trusting union with Thy person
  Which is above the reach
    of flesh and blood.

I have nothing but Thyself
  As a faithful Leader to me;
Under thy shadow is my refuge
  In the strongest storm.
Keep me sight on the haven
  Where I am drawn, come what may;
Pleasant lands of the promise,
  A land flowing with milk and honey.

In the great waters and the breakers
  There is nothing which holds my head
But my dear husband Jesus
  Who died on the tree:
A friend he is in the river of death
  Who holds my head above the wave:
The sight of him makes me sing
  In this deep river.

O my soul, wait for a while!
  Do not for anything be discouraged!
Although going through many a hard battle
  The last battle is drawing near.
I may meet with my fellow-soldiers
  Who went through the battle before me,
Sounding the pleasant victory
  Of one heart on one song.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~